Dolenni sydyn
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
CAIACh
Mae IAITH wedi dod i bartneriaeth ag Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant i sefydlu canolfan newydd arloesol, sef y Ganolfan Astudiaethau Iaith, Addysg a Chymuned (CAIACh).
Nod y Ganolfan yw datblygu gweithgareddau addysg a hyfforddiant mewn perthynas â chynllunio iaith, hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a datblygu sgiliau dwyieithog.
Bydd CAIACh hefyd yn datblygu rhaglen ymchwil ar themâu perthnasol i iaith, addysg a chymuned.
Mae'r rhaglen waith ddechreuol yn cynnwys datblygu tystysgrif ôl radd proffesiynol mewn cynllunio iaith cymhwysol. Cymhwyster sy'n hirddisgwyliedig gan swyddogion yn y maes.
Cyfarwyddir CAIACh gan Dr Christine Jones a Gareth Ioan.
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

