Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith Teuluoedd
Cwrs 1 diwrnod| Dyddiad: | 4 Tachwedd 2009 | Castellnewydd Emlyn |
| Hyfforddwr: | Gareth Ioan | |
| Ffi: | Sectorau cyhoeddus a phreifat | £175 + TAW |
| Sector gwirfoddol a chymunedol | £145 + TAW |
Mae'r cwrs yma yn addas ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn asiantaethau datblygu cymunedol ac sy'n gweithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda theuluoedd ifanc.
Bydd y cwrs yn:
• rhannu gwybodaeth am drosglwyddo iaith o fewn y teulu yng Nghymru
• edrych ar gymdeithasoli iaith a'r dylanwadau ar hynny
• trafod rhai egwyddorion sylfaenol ynglŷn â gweithio gyda phlant a theuluoedd
• rhoi cyfle i ystyried sut orau i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith teuluoedd ifanc.
O ganlyniad i'r cwrs:
• bydd gan fynychwyr wybodaeth gefndir am y maes
• byddant yn ymwybodol o werthoedd craidd o ran cynllunio iaith a gweithio gyda theuluoedd, a
• byddant wedi datblygu syniadau dechreuol ar sut i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith teuluoedd o fewn eu cyd-destun gwaith.
Ffurflen Gofrestru
Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

