Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Gweithio gyda grwpiau ieuenctid dwyieithog
Cwrs 1 diwrnod| Dyddiad: | 8 Rhagfyr 2009 | Llandrindod |
| Hyfforddwr: | Gareth Ioan | |
| Ffi: | Sectorau cyhoeddus a phreifat | £175 + TAW |
| Sector gwirfoddol a chymunedol | £145 + TAW |
Anelir y cwrs at weithwyr ieuenctid a gweithwyr datblygu cymunedol sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn meysydd megis y celfyddydau, chwaraeon a'r amgylchedd.
Bydd y cwrs yn:
• plethu egwyddorion gwaith ieuenctid gydag egwyddorion cynllunio iaith
• ystyried natur ddwyieithog rhwydweithiau pobl ifanc
• trafod addasrwydd gweithio'n uniaith a gweithio'n ddwyieithog
• gosod gwaith ieuenctid dwyieithog yng nghyd-destun perthynas grym o fewn cymdeithas
• rhoi arweiniad ar sut orau i sefydlu arferion gwaith dwyieithog ac yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y camau nesaf o fewn cyd-destun gwaith y mynychwr.
O ganlyniad i'r cwrs:
• bydd gan fynychwyr wybodaeth gefndir am y maes
• byddant yn ymwybodol o werthoedd craidd cynllunio iaith a gweithio gyda phobl ifanc, a
• byddant wedi datblygu syniadau dechreuol ar sut i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc o fewn eu cyd-destun gwaith.
Ffurflen Gofrestru
Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

