Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Y Gymraeg a Rheoli Adnoddau Dynol
Cwrs 1 diwrnod| Dyddiad: | 22 Ionawr 2010 | Llandrindod |
| Hyfforddwr: | Steve Eaves | |
| Ffi: | Sectorau cyhoeddus a phreifat | £175 + TAW |
| Sector gwirfoddol a chymunedol | £145 + TAW |
Bwriad y cwrs yw cynnig cyflwyniad ac arweiniad ynghylch y modd y dylai cyrff cyhoeddus a sefydliadau fynd ati i gynllunio a rheoli eu hadnoddau sgiliau iaith mewn modd strategol effeithiol i ateb dibenion eu Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol. Bydd y cwrs yn dilyn yn agos y fethodoleg a argymhellir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn eu canllawiau statudol, a thrafodir agweddau perthnasol ar recriwtio, hyfforddi a monitro. Gwneir hyn trwy gyfrwng cyflwyniadau a gweithdai.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i:
• ddeall amcanion Deddf yr Iaith Gymraeg yn well yng nghyswllt rheoli adnoddau dynol dwyieithog
• deall disgwyliadau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn well
• gosod yr her o staffio gwasanaethau dwyieithog eich sefydliad yng nghyd-destun diwylliant corfforaethol ehangach eich sefydliad chi, a'i chysylltu â'ch polisi ar y cydraddoldebau statudol, eich safonau gwasanaeth a'ch trefn gofal cwsmer
• blaengynllunio'n well ar gyfer cynllunio a sefydlu y systemau a'r gweithdrefnau angenrheidiol i reoli adnoddau iaith eich sefydliad yn fwy effeithiol.
Mae'r cwrs wedi ei anelu at swyddogion adnoddau dynol a swyddogion iaith cyrff sy'n gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg ac sy'n wynebu'r her o baratoi a gweithredu strategaeth sgiliau dwyieithog. Gall y cwrs 'Hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog', sy'n cael ei gynnal ar yr 11eg o Chwefror, fod o ddiddordeb i fynychwyr y cwrs hwn hefyd.
Ffurflen Gofrestru
Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

