Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith – Hyfforddi'r Hyfforddwyr
Cwrs 3 diwrnod (cyfrwng Cymraeg)Os oes gennych ddiddordeb mewn cwrs 'Hyfforddi'r Hyfforddwyr' cyfrwng Saesneg, cysylltwch ag . Gobeithiwn drefnu cwrs cyfrwng Saesneg cyn diwedd y flwyddyn.
| Dyddiadau: | 14 - 15 Hydref a 5 Tachwedd 2010 | Tŷ Tawe, Abertawe |
| Hyfforddwyr: | Elaine Davies a Clare Grist | |
| Ffi: | £375 + TAW |
Nod yr hyfforddiant yw cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fedru darparu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru.
Mae cyfle i ddiffinio'r maes a chadarnhau'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen. Mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth a pholisi; y Gymraeg a'r cydraddoldebau; hanes, demograffi a dwyieithrwydd. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau hyfforddi trwy ystyried sut mae oedolion yn dysgu; pa dechnegau y gellir eu defnyddio a sut mae cynllunio sesiwn hyfforddi fywiog.
Anelir y cwrs at bobl sy'n awyddus i ddysgu am faes ymwybyddiaeth iaith ac sydd naill ai'n hyfforddi yn rhan o'u gwaith bob dydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Mae'n addas ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, cynrychiolwyr y Mentrau Iaith a hyfforddwyr llawrydd.
Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflen gofrestru: Dydd Gwener, 24 Medi
Ffurflen Gofrestru
Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

