Iaith Cyf. logo

Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith – Hyfforddi'r Hyfforddwyr

Cwrs 3 diwrnod (cyfrwng Cymraeg)

Dyddiadau: 14 – 15 a 31 Mawrth 2011 Swyddfa IAITH, Castellnewydd Emlyn
Hyfforddwyr: Elaine Davies a
Clare Grist
Ffi: £375 + TAW

Nod yr hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hwn yw cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fedru darparu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae cyfle i ddiffinio'r maes a chadarnhau'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen. Mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth a pholisi; y Gymraeg a'r cydraddoldebau; hanes, demograffi a dwyieithrwydd. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau hyfforddi trwy ystyried sut mae oedolion yn dysgu; pa dechnegau y gellir eu defnyddio a sut mae cynllunio sesiwn hyfforddi fywiog.

Anelir y cwrs at bobl sy'n awyddus i ddysgu am faes ymwybyddiaeth iaith ac sydd naill ai'n hyfforddi yn rhan o'u gwaith bob dydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Mae'n addas ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 25 Chwefror

Ffurflen Gofrestru

Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
Gweinyddu