Iaith Cyf. logo

 

Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Bwrdd Cyfarwyddwyr


Arolygir gwaith y elusen gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sy'n adlewyrchu cefndir y cwmni fel ffynhonnell cefnogaeth i lywodraeth leol yng ngorllewin Cymru ynghyd ag arbenigedd unigolion arwyddocaol.

Cadeirydd:Owen Llywelyn

Cyfarwyddwyr:Des Davies
Gareth Jones
Euros Lewis
Selwyn Williams
Dr Dilys Davies
Cyng Clive Scourfield, Cyngor Sir Gâr
Cyng Huw George, Cyngor Sir Penfro
Cyng Alun Lloyd Jones, Cyngor Sir Ceredigion

Ysgrifennydd y Cwmni:Gareth Ioan

Staff gweinyddol IAITH



Gareth IoanGareth Ioan: Prif Weithredwr

Cymerodd Gareth at awenau'r cwmni yn 1997. Dan ei arweiniad mae'r cwmni wedi cynnal a datblygu ei statws fel arloeswyr amlycaf y maes cynllunio iaith yng Nghymru. Cynllunio iaith cymunedol yw ei ddiddordeb pennaf. Mae ganddo gefndir yn y maes gwaith ieuenctid a chymuned a phrofiad helaeth mewn hyrwyddo'r celfyddydau'n gymunedol. Mae'n un o sylfaenwyr y felin drafod Y Ffwrwm.


Nigel Vaughan: Prif Swyddog Ariannol a Gweinyddol

Ar ôl dilyn gyrfa yn y Bwrdd Dŵr a'i welodd yn Rheolwr Rhanbarthol yn y gorllewin, bu Nigel yn ail-hyfforddi fel rheolwr ariannol. Daeth at IAITH yn Awst 2009. Nigel sy'n cadw trefn ar gyllid ac effeithlonrwydd y Ganolfan.


Kelly Davies: Swyddog Gweinyddol

Kelly yw ceidwad y porth i'r cwmni. Y llais mwyn a glywch wrth ffonio CNE. Mae'n cefnogi gwaith gweinyddol nifer o'r unedau gweithredol, yn enwedig cynllun Twf.


Staff y Ganolfan



Kathryn JonesDr Kathryn Jones: Cyfarwyddwr, Polisi ac Ymchwil

Daeth Kathryn at y cwmni yn 1999. Cyn hynny bu'n gweithio ym Mharis, Tanzania a China ar faterion iaith-gysylltiol. Yn ieithegydd a chymdeithasegydd Kathryn sy'n arwain ein huned polisi ac ymchwil. Mae'n aelod o BAAL ac yn cyfrannu papurau yn gyson i gynadleddau iaith rhyngwladol.


Steve Eaves: Cyfarwyddwr, Cynllunio Iaith Corfforaethol

Ymunodd Steve gyda'r cwmni yn 2001 yn dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol fel Pen Gyfieithydd a Swyddog Iaith gyda chynghorau Arfon a Chonwy. Bu'n o sylfaenwyr Rhwydiaith, yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae'n un o'r arbenigwyr pennaf ar faterion iaith corfforaethol. Mae ganddo gefndir cadarn mewn undebaeth sy'n cyfrannu at ei arbenigedd mewn datblygu gweithlu dwyieithog.



Elaine DaviesElaine Davies: Cyfarwyddwr, Addysg a Hyfforddiant

Yn dilyn gyrfa mewn gofal cymdeithasol mae Elaine wedi cyfuno'r cefndir hynny â materion cynllunio iaith, fel gweithiwr llawrydd ac fel aelod o Gwmni Iaith ers 2001. Mae'n un o arloeswyr hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar y pwnc. Elaine a sefydlodd y cynllun Twf yn ei gylch cyntaf.


Morys GruffyddMorys Gruffydd: Cyfarwyddwr, Cynllunio Iaith Cymunedol

Ymunodd Morys â'r cwmni yn 2004 yn dilyn gyrfa yn y cyfryngau. Mae'n arwain cynllun Estyn Llaw sy'n cefnogi mudiadau gwirfoddol i ddatblygu arferion dwyieithog. Mae'n hyfforddwr medrus mae'n darparu HYI i gyrff yma yng Nghymru a'u pencadlysoedd yn Lloegr. Morys sy'n arwain gwasanaethau cymunedol y cwmni.


Elin Mair: Swyddog Gwasanaethau Iaith (CNE)

Mae Elin yn cynorthwyo ymgynghorwyr y cwmni yn CNE gan ganolbwyntio ar waith cymunedol, drwy Estyn Llaw, a gwaith addysg a hyfforddiant. Elin hefyd sy'n gyfrifol am gydlynu'r Rhaglen Hyfforddi a chynnal gwasanaeth monitro'r cwmni.


Dr Mari Wiliam: Swyddog Maes Estyn Llaw, Gogledd Cymru

Daeth Mari atom yn 2009 yn dilyn cwblhau PhD mewn hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, er mwyn lledaenu gwasanaeth Estyn Llaw i'r gogledd. Mae hi hefyd yn ddarlithydd cynorthwyol i'r Brifysgol Agored.




Staff Twf



Meryl Pierce: Cydlynydd Cenedlaethol

Ar ôl gyrfa lwyddiannus ym myd addysg a'i gwelodd yn ymgynghorydd addysg i gwmni Cynnal, daeth Meryl at gynllun Twf yn un o'r ddwy a fu'n treialu'r prosiect ar ddiwedd y 90au. O hynny daeth yn Swyddog Maes i Sir Ddinbych, Cydlynydd y Gogledd ac yna yn Gydlynydd Cenedlaethol yn 2004. Mae wedi arwain y cynllun yn ddychmygus a chadarn ers hynny.



Catrin Saunders: Cydlynydd Cenedlaethol Cynorthwyol

Ers 2003 bu Catrin Saunders yn Swyddog Maes i Twf yng Nghaerdydd a Chaerffili gan gyfuno hynny â'i swyddogaeth fel Cydlynydd Rhanbarth y De-ddwyrain. Rhwng mis Mai 2009 a Mai 2010 bu'n llanw bwlch fel Cydlynydd Cenedlaethol dros gyfnod mamolaeth Meryl Pierce. Ers Mai 2010 mae'n gweithredu fel Cydlynydd Cenedlaethol Cynorthwyol yn ogystal a Chydlynydd Rhanbarth.



Eirian Williams: Cydlynydd Cenedlaethol Cynorthwyol

Wedi cyfnod yn Swyddog Maes Twf yng Nghonwy daeth Eirian a'i chefndir gweinyddol helaeth i ganol y prosiect fel Cynorthwyydd i Meryl a Chydlynydd y Gogledd Ddwyrain. Eirian sydd hefyd yn cadw llygad ar drefniadaeth swyddfa Llanelwy.



Nerys Jones: Swyddog Gweinyddol

Wedi blynyddoedd helaeth yn y BBC mae Nerys bellach yn gaffaeliad mawr i dîm Twf. Yn rhannu swydd gyda Marian, Nerys sy'n debygol o'ch cyfarch wrth i chi ffonio ein swyddfa yn Llanelwy.

Marian Owen: Swyddog Gweinyddol

Mae Marian yn rhannu swydd gyda Nerys ac yn gaffaeliad mawr i'n tîm gweinyddol yn Llanelwy.



Swyddogion Maes Twf:

Ynys Môn: Bethan Jones
Arfon: Elizabeth Woodcock
Dwyfor: Nesta Griffiths
Meirionnydd: Morfudd Lloyd
Conwy: Ffion Alun
Dyffryn Conwy: Dinah Ellis
Dinbych: Menai Edwards
Gogledd Clwyd: Elin Owen Jones
Maldwyn: Meinir Lloyd Jones
De Ceredigion: Carys Owens
Gogledd Ceredigion: Bethan Wynne Jones
Sir Benfro: Wendy Edwards
Llanelli: Lynwen Merrignan
Gorllewin Sir Gâr: Lynwen Thomas
Dwyrain Sir Gâr: Linda Evans
Brycheiniog: Ceri Havard
Nedd ac Afan: Patsy Bracewell
Pen-y-bont ar Ogwr: Dawn Bowen
Rhondda Cynon Taf: Nia Morgan
Caerffili: Esther Thomas
Sir Abertawe: Siwan Thomas
Ysbyty Maelor,Wrecsam:Bethan Williams
Gweinyddu