Dolenni sydyn
- Cymunedol
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Cynllunio Iaith Cymunedol
“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn argyhoeddiedig ei bod hi'n holl bwysig cadw'r Gymraeg yn iaith gymunedol fyw os yw'r iaith i fynnu a bod yn llewyrchus.” (Iaith Pawb, 2003)
Mae IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn cytuno'n llawn â'r gosodiad uchod ac mae cynorthwyo eraill i gynnal a datblygu hyfywedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn rhan allweddol o weledigaeth y cwmni.
Rydym wedi bod yn datblygu, gweinyddu a rheoli amryw o brosiectau ac adnoddau cymunedol dros y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud hynny gyda phartneriaid niferus. Mae llawer o'r prosiectau ddechreuodd eu hoes yn swyddfeydd IAITH yn dal i dyfu. Rhai yn parhau o fewn IAITH ac eraill wedi eu mabwysiadau gan gyrff statudol ac wedi hedfan y nyth.
Mae'r rhestr isod yn rhoi rhagflas o'r amrywiaeth o weithgareddau cymunedol sydd naill ai ar waith ar hyn o bryd, neu wedi bod yn un o brosiectau cymunedol y cwmni:
• Gwasanaeth cynllunio a datblygu ar gyfer mentrau iaith ac eraill
• Darparu hyfforddiant ar faterion iaith a diwylliant yng nghyswllt datblygu cymunedol
• Datblygu prosiectau blaengar ar y cyd â phartneriaid yn y gymuned
• Darparu hyfforddiant ar y Gymraeg mewn busnes
• Cynnal sesiynnau ar arwyddocâd y Gymraeg i'r diwydiant twristiaeth
• Cyfrannu at weithgareddau Y Ffwrwm
• Datblygu cynllun Ogam ar ran Menter Iaith Sir Benfro a threfnu cynhadledd fawr i drafod Cynaladwyedd a'r Iaith Gymraeg.

Fan Hyn, Fan draw
Darparu gwasanaethau a gwybodaeth, a hybu cyfleoedd diwylliannol o fewn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig y sir yw rhai o brif amcanion cynllun arloesol y Bwrdd Gwasanaeth Lleol 'Fan Hyn, Fan Draw', gyda'r Fan Llyfrgell yn ganolbwynt i'r cyfan. Fel rhan o'r cynllun hwn, mae cysylltiad band llydan wedi ei osod yn Neuadd y Jiwbilee Llangeitho; Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid; Capel Pontarfynach, a Neuadd Ysbyty Ystwyth. Yn ystod ymweliadau'r fan, mae nifer o gyfrifiaduron yn cael ei gosod yn y neuaddau at ddefnydd y cyhoedd.
Mae'r Fan Llyfrgell yn ddolen gyswllt i sawl asiantaeth gyhoeddus yn ogystal trwy weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, Dysgu Bro Ceredigion, y Gwasanaeth Tân ac Achub, a CAVO.
Gweinyddir y prosiect gan IAITH ar y cyd ag Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion ar ran Bwrdd Gwasanaeth Lleol Ceredigion.

7/iaith
Diben y prosiect yw cryfhau ac ehangu'r defnydd y'n ni gwneud o'r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, yng nghyd-destun 7 o feysydd neu themâu penodol. Mae na bethe syml iawn gallwn ni i gyd wneud er mwyn cyfrannu at y nod hwn, ac elfen sy'n ganolog i'r cynllun yw codi hyder siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun y saith thema, gan obeithio bod hynny yn mynd i arwain at gryfhau a chadarnhau penderfyniadau o blaid y Gymraeg o fewn ein bröydd, ac o bosib newid rhai o'n harferion iaith.

Ma' dy Gymrâg di'n Grêt / Hwyl a Hamdden
Datblygwyd 'Ma' dy Gymrâg di'n Grêt' yn wreiddiol gan griw Twf yn Sir Gâr. Mae'r cynllun yn annog pobl sy'n gallu siarad Cymraeg, yn enwedig mamau ifanc, i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Y gobaith yw newid arferion rhieni sy'n gallu siarad Cymraeg ond sydd wedi arfer siarad Saesneg gyda'i gilydd. Mae'r cwmni'n parhau i beilota'r cynllun gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod 2008/2009.

Cymraeg yn Gyntaf
Dechreuodd Cymraeg yn Gyntaf yn brosiect a ddatblygodd IAITH ar ran Cered yn y 1990au. Prif bwrpas yr ymgyrch yw annog bobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn Gyntaf ym mhob agwedd o'u bywydau bob dydd. Erbyn hyn, dan adain Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae pwyslais yr ymgyrch ar y sector breifat yn bennaf - sef siopau, a busnesau o bob math. Mae'r ymgyrch hefyd yn annog y rhai hynny sy'n cynnig gwasanaethau o bob math i'r cyhoedd i wneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg. Codi hyder pobl yn eu hiaith a chynyddu'r defnydd o'r iaith sy'n gwbl waelodol i'r cynllun.

Prosiect Profiad Gwaith
Nod y cynllun peilot hwn yw cyfoethogi'n ieithyddol profiadau 'profiad gwaith' dysgwyr y Gymraeg a siaradwyr Cymraeg llai rhugl / llai hyderus yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Gwneir hyn drwy weithio gyda'r disgyblion, yr athrawon a'r gweithleoedd gan bwysleisio arwyddocâd a phwysigrwydd medru defnyddio'r iaith Gymraeg yn y gwaith.

Datblygu Cymunedol
Mae Iaith, ar y cyd â Menter a Busnes, aelod o Rwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf, wedi llunio a chyhoeddi amryw o adnoddau a chanllawiau ar gyfer Partneriaethau Lleol Cymunedau yn Gyntaf i'w cynorthwyo i wneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn lleol, a defnyddio'r iaith er mwyn cyflawni gofynion ac amcanion rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae copïau o'r adnoddau ar gael yma.

At hynny, mae ein cynllun Estyn Llaw yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i nifer o grwpiau a mudiadau gwirfoddol, yn enwedig yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau cymunedol cysylltwch â Morys Gruffydd ar 01239 711668 neu .
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media