Dolenni sydyn
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Cynllunio iaith corfforaethol
Fel y cwmni cyntaf i fentro i'r maes hwn mae profiad y cwmni o ddarparu gwasanaethau cynllunio iaith corfforaethol heb ei ail. Mae prif sefydliadau cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol amlwg ymhlith ein cleientiaid. Gallwn gynghori ar unrhyw agwedd o ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol:

• datblygu, gweithredu a monitro Cynlluniau Iaith Gymraeg
• llunio Strategaethau Sgiliau Iaith
• arweiniad ar brif-ffrydio'r Gymraeg
• arweiniad ar ddatblygu gweithleoedd dwyieithog
• llunio canllawiau a briffio staff
• cynnal awdit sgiliau iaith
• llunio strategaethau hyfforddiant
• darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
• cyngor ar recriwtio a phenodi
• gofal cwsmer a'r Gymraeg
• y Gymraeg a'r cydraddoldebau
• sefydlu a chefnogi Swyddogion Iaith
Rydym hefyd yn datblygu a gweithredu nifer o brosiectau arloesol ar y cyd â'n cleientiaid sy'n cynnig atebion dychmygus i anghenion penodol. Am restr engreifftiol o weithgareddau cyfredol y cwmni yn y maes hwn cliciwch y cyswllt hwn.
Bydd Steve Eaves yn falch iawn o drafod eich anghenion chi yng nghyswllt unrhyw agwedd o ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol. Rhowch alwad iddo ar 01745 585120.
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

