Dolenni sydyn
- Hafan
- Datblygiadau diweddar
- CAIACh
- Cynllunwyr Iaith Cymru
- Hyfforddiant a Digwyddiadau
- Ystafelloedd Cyfarfod
- Pobl
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Cynllunwyr Iaith Cymru
Amcanion Cynllunwyr Iaith Cymru
Gwerthoedd Craidd Cynllunwyr Iaith Cymru
Y Cyfarfodydd
Darlith Flynyddol CIC 2011.
Dydd Iau, 4 Awst, 3:30, Pabell y Cymdeithasau 1, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro
Eleni bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn tafoli datblygiadau diweddar yn y maes cynllunio iaith yng Nghymru dan y pennawd 'Edrych Nôl,Edrych Ymlaen'
Darlith Flynyddol CIC 2010
'Deddfwriaeth Iaith - rhy bwysig i'w gadael i'r cyfreithwyr'.
Dyna oedd testun Emyr Lewis yn narlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent eleni. Mae Emyr Lewis wedi bod yn sylwebydd amlwg wrth i'r Mesur Iaith arfaethedig dderbyn sylw cyhoeddus. Fel aelod o Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar faterion ieithyddol a chyfreithiwr nodedig mae ei farn yn dal cryn ddylanwad.
2yp, 5 Awst, Pabell y Cymdeithasau 2, Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
Y Ddarlith
Pwyso a mesur y Mesur Iaith
Yn dilyn cyhoeddi'r mesur iaith ar y 4ydd o Fawrth cafwyd cyfle amserol i'w drafod drannoeth yng nghwmni Simon Thomas, Cynghorydd Arbennig Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad. Bu panel yn ymateb i'r mesur, sef Alun Jones, Menter a Busnes, Gwenan Prysor, Canolfan Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Gogledd Cymru, a Steve Eaves, IAITH cyf., ac roedd yna gyfle i bawb gyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus.
Cofnodion y cyfarfod
Mesur Arfaethedig y Gymraeg
Datganiad y Gweinidog a'r Drafodaeth yn y Cynulliad
Brecwast gyda'r Gweinidog
Roedd digon o faterion i gnoi cil arnyn nhw yn dilyn y Brecwast gyda'r Gweinidog ar 19 Tachwedd yn Aberystwyth! Trefnwyd y cyfarfod dan faner Cynllunwyr Iaith Cymru. Cafwyd cyfarfod niferus gydag ystod eang o gynrychiolwyr o ardaloedd eang wedi herio'r tywydd mawr a chymryd y cyfle i drafod 'Cymru Ddwyieithog' gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, a Huw Onllwyn Jones, Pennaeth Uned Iaith y Cynulliad. Cafwyd trafodaeth agored a bywiog gyda nifer o bwyntiau diddorol a heriol yn cael eu codi. Anogwyd pawb i ymateb i wahoddiad y Gweindog i gyflwyno barn yn ystod y cyfnod ymgynghorol.
Cofnodion
Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009
Braint fawr i'r rhai ohonom oedd yn bresennol oedd gwrando ar ddarlith gampus yr Athro Colin H Williams ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y Bala eleni. Mapiodd Colin nifer o opsiynau oedd yn wynebu cynllunio iaith yng Nghymru o ran deddfwriaeth, rheoleiddio a hyrwyddo, gan dynnu ar enghreifftiau rhyngwladol ynghyd a dadansoddiad o ddatblygiadau cyfredol yma yng Nghymru.
Cafwyd cynulleidfa anrhydeddus iawn. Diolch i bawb am y gefnogaeth a diolch yn arbennig i Colin am y ddarlith a'i weledigaeth.
'Deddfu, Iaith a Chynllunio': Darlith Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru gan yr Athro Colin Williams
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008
Wynebu her y cymunedau gwledig Cymraeg oedd pwnc cyfarfod CIC yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i Babell y Cymdeithasau i wrando ar Elin Jones AC, Meri Huws ac Euros Lewis yn trafod y pwnc dan lywyddiaeth Rhodri Llwyd Morgan.
Mae papur a luniwyd gan Euros ar gael i'w lawrlwytho o'r ddolen isod.
Yr Her i Gymdogaethau Cymraeg
Rhaglen Cyfarfod Eisteddfod Caerdydd
Cyfarfod 19 Mehefin 2008
Yng nghyfarfod mis Mehefin adroddwyd nôl ar waith y gweithgor cymhwyster proffesiynol, bu Dylan Iorwerth yn holi Dr Kathryn Jones ynglŷn â deddfwriaeth iaith, cafwyd cyflwyniad ar ddatblygu'r wasg Gymraeg, a thrafodwyd y camau nesaf i sefydlu Cynllunwyr Iaith Cymru yn ffurfiol. Gweler y rhaglen a'r nodiadau isod:
Rhaglen Cyfarfod 19 Mehefin
Nodiadau cyfarfod Cynllunwyr Iaith Cymru, 19 Mehefin 2008
Cyfarfod 8 Chwefror 2008
'Cymhwyster Proffesiynol - y ffordd ymlaen' oedd testun y cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ar yr 8fed o Chwefror 2008. Gweler y nodiadau isod:
Nodiadau cyfarfod Cynllunwyr Iaith Cymru, 8 Chwefror 2008
Cyfarfod 12 Hydref 2007
Cafwyd cyfarfod llwyddiannus yn Aberystwyth ar 12 Hydref lle trafodwyd gwerthoedd a swyddogaethau CIC. Gweler y nodiadau isod:
Nodiadau o gyfarfod Cynllunwyr Iaith Cymru, 12 Hydref
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

