Dolenni sydyn
- Hafan
- Datblygiadau diweddar
- CAIACh
- Cynllunwyr Iaith Cymru
- Hyfforddiant a Digwyddiadau
- Ystafelloedd Cyfarfod
- Pobl
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Digwyddiadau / Hyfforddiant
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro
30 Gorffennaf - 6 Awst
Dydd Llun, 1 Awst, 12:00, Pabell y Cymdeithasau 1
Gofal yn y Gymuned - pa le roddir i iaith?
Bydd Seicoleg Glinigol Cymru ar y cyd â IAITH ac Uned Iaith GIG Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaeth gyda phanel o arbenigwyr i drafod y maes pwysig hwn.
Dydd Mawrth, 2 Awst, 11:00yb, Pabell Cymdeithasau 2
Profiadau Siaradwyr Cymraeg o'r maes Iechyd a Gofal
Bydd Elaine Davies o IAITH yn cael ei holi gan Beti George am ein gwaith ymchwil comisiwn diweddar ar ran Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Gofal i brofiadau defnyddwyr gwasanaethau Cymraeg eu hiaith yn y sector iechyd a gofal, cynhelir y sesiwn gan Gyngor Gofal Cymru.
Dydd Iau, 4 Awst, 3:30yp, Pabell y Cymdeithasau 1
Darilth Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru:
Eleni bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn tafoli datblygiadau diweddar yn y maes cynllunio iaith yng Nghymru dan y pennawd, 'Edrych Nôl, Edrych Ymlaen'.
Y Ddarlith
Dydd Gwener, 5 Awst, 1:00yp, Stondin Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Polisi a Chynllunio Iaith - Derbyniad i'r Chwilfrydig!
Cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y dystysgrif ôl radd newydd mewn Polisi a Chynllunio Iaith neu'r MA Amlieithrwydd a Dwyieithrwydd i ddod i'w drafod gyda'r tiwtoriaid a'r trefnwyr.
Darperir lluniaeth ysgafn - croes i bawb chwilfrydig!
Mwy o wybodaeth yma
Dychmygu S4C Newydd
Theatr Felin-fach
11.00 - 4.00 o'r gloch, Dydd Sadwrn, Mawrth 26, 2011
Mae S4C ar groesffordd. Mae popeth yn cael ei drafod, heblaw sut yn union mae ail-greu perthynas y sianel â'r diwylliant Cymraeg.
Ddydd Sadwrn, 26 Mawrth cynhaliwyd cymanfa ben agored yn Theatr Felin-fach, Ceredigion, i ganolbwyntio ar oblygiadau a photensial y nod hwnnw.
I helpu'r broses o daflu hen fodelau o'r neilltu a chreu syniadau newydd sbon roedd...
• y gwneuthurwr ffilm nodedig, Peter Edwards
• yr arbenigwraig ar arloesedd cynnar S4C, Elain Price (Prifysgol Abertawe)
• y cyfryngwr newydd Rhodri ap Dyfrig (Prifysgol Aberystwyth)
• Llywydd Anrhydeddus Mercator, Ned Thomas (cyfweliad ar ffilm)
• y gwneuthurwr ffilm ifanc, Owain Llyr
Trafodion
'Ysbryd Arloesi Blynyddoedd Prawf S4C 1981-85', Elain Price, Prifysgol Abertawe
Datganiad i'r Wasg
Recriwtio a'r Iaith Gymraeg
Aberystwyth, Llandudno
17 & 18 Mawrth 2011
Caerdydd, Aberystwyth, Llandudno
1, 2, 3, Chwefror 2011
Cyfle i ymgyfarwyddo â chanllaw Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar recriwtio - Recriwtio a'r Iaith Gymraeg (Arweiniad o dan Adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993).
Mwy o wybodaeth
Hyfforddiant
| • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi'r Hyfforddwyr (cwrs cyfrwng Cymraeg) (Swyddfa IAITH, Castellnewydd Emlyn) | 14 - 15 a 31 Mawrth 2011 |
| • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi'r Hyfforddwyr (Swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Caernarfon) | 3 - 4 a 25 Chwefror 2011 |
| • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi'r Hyfforddwyr (Tŷ Tawe, Abertawe) | 14 - 15 Hydref a 5 Tachwedd 2010 |
Edrych tua'r Gorwel
Cynhadledd Genedlaethol
Gwesty'r Park Plaza, Caerdydd, 14 Rhagfyr 2010
Cyfle i ymateb i'r Strategaeth Iaith Genedlaethol arfaethedig ac adnabod blaenoriaethau i'r maes cynllunio iaith i'r dyfodol.
Y Trafodion
Siaradwyr:
Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth
Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Elaine Davies, IAITH
Sel Wiliams, Prifysgol Bangor
Heini Gruffudd, Cyngor Iaith Hafan
Meic Raymant, Heddlu Gogledd Cymru
Alun Jones, Menter a Busnes
Tâl mynychu: £85 (gan gynnwys TAW)
Am ffurflen gofrestru electronig, cysylltwch ag Elin Mair ar
/ 01239 711668
/ 01239 711668
Digwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010
Y Gymraeg a Iechyd Meddwl
Dydd Llun, 2 Awst 2010, 1ypPabell y Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
Cyfarfod yng nghwmni'r dyfarnwr Nigel Owens. Trefnir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, Adran Seicoleg Glinigol Cymru a'r Ganolfan Cynllunio Iaith.
'Gorwelion Newydd: awgrymiadau ar gyfer cyfnod newydd mewn cynllunio iaith yng Nghymru'
Lansio papur trafodDydd Mawrth, 3 Awst 2010, 11.30yb
Pl@iad, Maes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
Yn dilyn gwahoddiad gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn ddiweddar, daeth nifer o unigolion o feysydd gwahanol at ei gilydd yn Aberystwyth, Llanelli a Dyffryn Conwy i drafod y datblygiadau diweddaraf ac i geisio bwrw golwg ymlaen dros y gorwel nesaf yng nghyswllt cynllunio iaith yng Nghymru. Ffrwyth y trafodaethau hynny yw'r papur dan sylw.
Darperir lluniaeth ysgafn.
Cysylltwch ag os hoffech fod yn bresennol.
Cyhoeddi Datganiad o Fwriad rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a IAITH: y ganolfan cynllunio iaith
Dydd Mercher, 4 Awst 2010, 2ypStondin Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Maes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
Bydd CAIACh, sef y Ganolfan Astudiaethau Iaith, Addysg a Chymuned, yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd y Brifysgol ac IAITH: y ganolfan cynllunio iaith.
Diben y Ganolfan fydd adeiladu ar gryfderau a phrofiadau'r ddau bartner i greu gwasanaeth arbenigol newydd i ddiwallu anghenion addysg a hyfforddiant y maes cynllunio iaith yng Nghymru.
Darlith Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru
Dydd Iau, 5 Awst 2010, 2ypPabell y Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
'Deddfwriaeth Iaith - rhy bwysig i'w gadael i'r cyfreithwyr'
Dyna fydd testun darlith Emyr Lewis sydd wedi bod yn sylwebydd amlwg wrth i'r Mesur Iaith arfaethedig dderbyn sylw cyhoeddus. Fel aelod o Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar faterion ieithyddol a chyfreithiwr nodedig mae ei farn yn dal cryn ddylanwad.
Y Ddarlith
Cytundebau, Grantiau a Dwyieithrwydd
Dydd Gwener, 6 Awst 2010, 11ybUned Sbardun, Maes, Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
• Beth yw'r disgwyliadau sydd ar fudiadau'r 3ydd sector o ran darparu gwasanaethau dwyieithog wrth ennill cytundeb neu wrth dderbyn arian grant?
• Pa gefnogaeth sydd ar gael i gynorthwyo mudiadau i wireddu'r gofynion hyn?
Ymunwch ag Estyn Llaw ar gyfer gweithdy bydd yn ystyried y materion hyn, gyda chyfraniadau gan gynrychiolwyr o Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Gronfa Loteri Fawr. Bydd cyfle yn ogystal i ystyried y datblygiadau diweddaraf yn y maes, gan gynnwys y Compact 3ydd Sector, a'r Côd Ymarfer ar Ariannu'r 3ydd Sector.
Archif
Pwyso a mesur y Mesur Iaith
Dydd Gwener, 5 Mawrth 2010, 10yb tan 12.30yp
Mudiad Ysgolion Meithrin, Aberystwyth
• Cyfle i drafod y mesur iaith yng nghwmni Simon Thomas, Cynghorydd Arbennig
Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad.
• Bu panel yn cynrychioli'r sector preifat, sector cyhoeddus a'r maes gofal yn
ymateb i'r mesur ac roedd yna gyfle i bawb gyfrannu.
Cofnodion
Trefnwyd dan faner Cynllunwyr Iaith Cymru
Hud ein Hwiangerddi
GOSOD SEILIAU IAITH A DIWYLLIANT YN Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
2 Mawrth 2010, Gwesty Deganwy Quay, Deganwy
3 Mawrth 2010, Parc y Sgarlets, Llanelli
Bydd Sgiliau Sylfaenol Cymru, Twf a Dechrau Da yn cynnal cyfres o seminarau, yn rhad ac am ddim, ar bwysigrwydd cyflwyno rhigymau a straeon i blant rhwng 0-3 oed ar ddechrau mis Mawrth 2010.
Siaradwr gwadd y diwrnod fydd yr Athro Roger Beard, Pennaeth Plentyndod Cynnar ac Addysg Gynradd yn Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain. Mae newydd gyhoeddi ymchwil ar thema'r seminar.
Cynhelir gweithdai hefyd fel rhan o'r diwrnod a fydd yn cynnig hyfforddiant arbenigol ar ganu rhigymau gyda Dechrau Da a Twf.
Brecwast gyda'r Gweinidog
19 Tachwedd 2009, Mudiad Ysgolion Meithrin, Aberystwyth
Roedd digon o faterion i gnoi cil arnyn nhw yn dilyn y Brecwast gyda'r Gweinidog! Trefnwyd y cyfarfod dan faner Cynllunwyr Iaith Cymru. Cafwyd cyfarfod niferus gydag ystod eang o gynrychiolwyr wedi cymryd y cyfle i drafod 'Cymru Ddwyieithog' gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, a Huw Onllwyn Jones, Pennaeth Uned Iaith y Cynulliad. Cafwyd trafodaeth agored a bywiog gyda nifer o bwyntiau diddorol a heriol yn cael eu codi.
Cofnodion
Darlith Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru
Braint fawr oedd gwrando ar ddarlith gampus yr Athro Colin H Williams ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y Bala (2009). Mapiodd Colin nifer o opsiynau oedd yn wynebu cynllunio iaith yng Nghymru o ran deddfwriaeth, rheoleiddio a hyrwyddo, gan dynnu ar enghreifftiau rhyngwladol ynghyd a dadansoddiad o ddatblygiadau cyfredol yma yng Nghymru.
'Deddfu, Iaith a Chynllunio': Darlith Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru gan yr Athro Colin Williams
Addysgu a dysgu dwyieithog
ar gyfer y Gymru gyfoes
GWESTY'R METROPOLE, Llandrindod, 30 Ebrill 2009
Cynhadledd i lansio DVD sy'n cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil Dwyieithrwydd, Llythrennedd a Dysgu mewn Addysg Bellach. Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i drafod addysg ddwyieithog yng Nghymru o ran:
• Newid economaidd a chymdeithasol a'r galw am sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith yn y Gymru ddwyieithog gyfoes
• Yr her a'r cyfleoedd ar gyfer addysg Gymraeg a dwyieithog o fewn Llwybrau Dysgu 14 - 19
• Strategaeth Addysg Gyfrwng Cymraeg Cenedlaethol
• Ymchwil ac addysg athrawon
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Rhaglen y Gynhadledd
Cyflwyniad Ann Jenkins, Pennaeth Uned Datblygu'r Iaith Gymraeg, APADGOS
Cyflwyniad Yr Athro Marilyn Martin-Jones, Athro Ieithoedd mewn Addysg a Chyfarwyddwr Canolfan MOSAIC.
Cyflwyniad Dylan V Jones, Pennaeth yr Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynol Athrawon yng Ngholeg Prifysgol y Drindod.
Cyflwyniad Huw Jones, Is-gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ac aelod o Banel Ymgynghorol APADGOS ar Strategaeth Addysg Gymraeg.
Cyflwyniad Gari Lewis, Cyfarwyddwr Plant a Phobl ifanc Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cynlluniau Iaith - y ffordd ymlaen
VENUE CYMRU, Llandudno, 18 Mawrth 2009
Y LLWYFAN, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, 19 Mawrth 2009
Seminarau i drafod Cynlluniau Iaith Gymraeg yng nghyd-destun:
• Y profiad o weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg
• Effaith a dylanwad Cynlluniau Iaith Gymraeg - y cynnydd a'r anawsterau
• Goblygiadau deddfwriaeth newydd a'r ffordd ymlaen
Rhaglen 'Cynlluniau Iaith - y ffordd ymlaen'
Cynhadledd Siarad Babi 0-9 mis oed
Gweithio Gyda'n Gilydd i Hybu Datblygiad Iaith Babi
Gwesty Deganwy Quay, Deganwy, 27 Chwefror 2009
Mae'r Gynhadledd yn cael ei threfnu gan Gynllun Twf a Sgiliau Sylfaenol Cymru am yr ail dro yn sgil llwyddiant y cyntaf ym mis Hydref 2008.
Rhaglen Cynhadledd Siarad Babi
Y Gorchymyn Iaith a Hawl i'r Gymraeg
Y Deml Heddwch, 7 Tachwedd 2008
Nod y gynhadledd yw rhannu gwybodaeth am y broses o lunio Gorchymyn Iaith Llywodraeth y Cynulliad a chyfrannu i'r ymgynghoriadau cyhoeddus arno, gan drafod hefyd bosibiliadau ar gyfer deddfwriaeth newydd i sefydlu hawliau iaith parthed y Gymraeg.
Papurau'r Gynhadledd
Anerchiad yr Arglwydd Gwilym Prys Davies
Anerchiad Yr Athro Thomas Glyn Watkin
Pam deddfu? - Emyr Lewis
Anerchiad Gwion Lewis (cyflwyniad fideo)
Hawl i'r Gymraeg - Meri Huws
Pethau'n Poethi: Her Newid Hinsawdd
Gwesty'r Metropole, Llandrindod, 14-15 Ebrill 2008
Trefnwyd y gynhadledd ddeuddydd gan Weithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol (GIGSA) er mwyn trafod yr her newid hinsawdd.
Gweler gwefan GIGSA am fwy o wybodaeth a thrafodion y Gynhadledd.
Plethu ein Dyfodol:
Cymunedau Cymraeg Cynaladwy
Rhos y Gilwen, Cilgerran, Sir Benfro, 23 Mawrth 2007
Trefnwyd y Gynhadledd gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ar ran Cynllun Ogam a Menter Iaith Sir Benfro i drafod iaith a chynaladwyedd. Crynhowyd y pwyntiau trafod gan Cynog Dafis i'r rhai canlynol:
• Sut mae bywhau'r Gymraeg ochr yn ochr â gwarchod yr amgylchedd?
• Sut mae dysgu - y naill faes wrth y llall?
• Sut mae integreiddio'r Gymraeg i gonsyrn am amgylchedd a ffordd o fyw cynaliadwy?
Gweler y Trafodion]
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

