Iaith Cyf. logo

 


Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Fan Hyn, Fan Draw


Darparu gwasanaethau a gwybodaeth, a hybu cyfleoedd diwylliannol o fewn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig y sir yw rhai o brif amcanion cynllun arloesol y Bwrdd Gwasanaeth Lleol 'Fan Hyn, Fan Draw', gyda'r Fan Llyfrgell yn ganolbwynt i'r cyfan.

Fel rhan o'r cynllun hwn, cafodd cysylltiad eang ei osod yn Neuadd y Jiwbilee Llangeitho; Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid; Capel Pontarfynach, a Neuadd Ysbyty Ystwyth ym mis Ionawr 2010 gan ganiatau i bobl ddefnyddio cyfrifiaduron a chael mynediad i'r we yn ystod ymweliadau'r fan. Er bod ymweliadau Fan Hyn, Fan Draw wedi dod i ben yn yr ardloedd yma erbyn hyn, mae modd i drigolion barhau i wneud defnydd o'r band eang yn y canolfannau.

Mae'r cynllun bellach wedi gosod cysylltiad band eang ym mhentrefi Talgarreg, Pontgarreg a Llanddewi Brefi ac yn ymweld â'r ardaloedd yma, yn ogystal â Theatr Felinfach, bob pythefnos rhwng Medi a Rhagfyr 2010.

Mae'r Fan Llyfrgell yn ddolen gyswllt i sawl asiantaeth gyhoeddus trwy weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, Dysgu Bro Ceredigion, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), TraCC a'r Adran Diogelwch Ffyrdd, yn ogystal ag adrannau eraill y Cyngor Sir.

Gweinyddir y prosiect gan IAITH ar y cyd ag Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion ar ran TraCC a Bwrdd Gwasanaeth Lleol Ceredigion.
Gweinyddu