Iaith Cyf. logo

 


Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith


Os yw eich sefydliad yn awyddus i weithredu'n ddwyieithog byddwch yn fwy tebygol o lwyddo os oes agwedd adeiladol a chefnogol ymhlith eich staff. Gall pryderon, ansicrwydd ac agweddau negyddol at ddwyieithrwydd droi'n rhwystrau lletchwith yn wyneb newid.

Dyna pam fod nifer gynyddol o sefydliadau blaengar yn gofalu bod eu staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith (HYI). Nod yr hyfforddiant yw trafod gyda'r sawl sy'n cymryd rhan sut i brif ffrydio ymwybyddiaeth am y Gymraeg mewn polisi a dulliau gwaith trwy archwilio:

PAM bod angen i sefydliadau ac unigolion fynd i'r afael â chwestiwn y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru?

Er enghraifft, deddfwriaeth; polisi; cyfleoedd cyfartal ac arfer da.

BETH y mae angen i sefydliadau ac unigolion ei wybod am y Gymraeg ac am y bobl sy'n ei siarad?

Er enghraifft, demograffeg; y profiad dwyieithog; hanes; iaith a phŵer; iaith a'r hunan.

SUT y gall sefydliadau ac unigolion gynllunio a darparu gwasanaethau mewn ffordd sensitif o safbwynt iaith?

Er enghraifft, pwyso a mesur y Cynllun Iaith; cymryd stoc a sefydlu cynllun gweithredu.

Fel arloeswr yn y maes HYI, gall arbenigedd Cwmni Iaith fod o gymorth i chi yn y cyswllt hwn. Mae gennym dîm o hyfforddwyr profiadol a hyderus a all gynnig hyfforddiant pwrpasol, wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion ac yn gosod y cywair iawn.

Gallwch weld rhestr lawn o adnoddau HYI y cwmni drwy glicio ar y cyswllt hwn.
Gweinyddu