Dolenni sydyn
- Hafan
- Datblygiadau diweddar
- Cynllunwyr Iaith Cymru
- Cylchlythyrau
- Cyfarwyddwyr
- Staff
Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB
(+44) 01239 711668
Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE
(+44) 01745 585120
Datblygiadau diweddar
Agor Dau Ddrws
Cyflwyniad i Waith Ieuenctid Dwyieithog: Mae Agor Dau Ddrws, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2000 fel canllaw i Weithwyr Ieuenctid o'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, bellach wedi ei ddiweddaru a'i ailargraffu. Mae IAITH – y ganolfan cynllunio iaith, ac Is-Adran Strategaeth Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth y Cynulliad wrthi yn trefnu lansiadau swyddogol ar gyfer diwedd Mai / dechrau Mehefin. Bydd manylion pellach ynglŷn â dyddiadau a lleoliadau yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Os hoffech dderbyn copi o'r cyhoeddiad dwyieithog, cysylltwch â ni.Mae copi electronig ar gael i'w lawr lwytho o'r Llyfrgell.
(Ychwanegwyd ar 22/02/2010)
Brecwast gyda'r Gweinidog
Roedd digon o faterion i gnoi cil arnyn nhw yn dilyn y Brecwast gyda'r Gweinidog ar 19 Tachwedd yn Aberystwyth! Trefnwyd y cyfarfod dan faner Cynllunwyr Iaith Cymru. Cafwyd cyfarfod niferus gydag ystod eang o gynrychiolwyr o ardaloedd eang wedi herio'r tywydd mawr a chymryd y cyfle i drafod 'Cymru Ddwyieithog' gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, a Huw Onllwyn Jones, Pennaeth Uned Iaith y Cynulliad. Cafwyd trafodaeth agored a bywiog gyda nifer o bwyntiau diddorol a heriol yn cael eu codi. Anogwyd pawb i ymateb i wahoddiad y Gweindog i gyflwyno barn yn ystod y cyfnod ymgynghorol. Bydd cofnod o brif drywyddau'r drafodaeth yn cael eu gosod yma yn fuan.(Ychwanegwyd ar 02/12/2009)
Rhaglen Hyfforddiant 2009 – 2010
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diwethaf, mae IAITH yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi a gweithdai ym maes cynllunio iaith unwaith eto. Bydd y sesiynau yn trafod sut i ddatblygu a chryfhau'r Gymraeg mewn nifer o feysydd gwahanol, er enghraifft, yn y teulu, wrth weithio gyda phobl ifanc, ac ym myd gwaith.Sylwadau am sesiynau hyfforddi 2008 - 09
“Rhoddodd yr hyfforddiant bopeth mewn persbectif gan osod rhaglen waith glir i ni fynd gyda ni o'r diwrnod.”
“Diwrnod hynod ddefnyddiol oedd yn cynnig ffordd ymlaen, heb os.”
“Hyfforddwr hyddysg a diwrnod gwerthfawr iawn.”
Rhaglen Hyfforddiant 2009-2010
(Ychwanegwyd ar 02/10/2009)
IAITH yn elusen
Ers 9 Mehefin 2009 mae IAITH bellach yn elusen gofrestredig. Mae hyn yn golygu y gallwn dyfu a datblygu'n swyddogaeth yn darparu gwasanaethau proffesiynol i'r maes cynllunio iaith yng Nghymru a thu hwnt. “Mae hyn yn rhoi llwyfan gwych i ni ddatblygu ein gwaith ymchwil a datblygu, ein gwaith addysg a hyfforddiant ynghyd â'n rhaglenni cefnogaeth a gwybodaeth”, meddai'r Prif Weithredwr, Gareth Ioan. “Ein bwriad yw parhau i ddatblygu ein statws fel canolfan ragoriaeth mewn cynllunio iaith, gan ddarparu gwasanaethau cefnogol o'r radd uchaf i'r maes cynllunio iaith drwy gyfrwng ein staff a'n partneriaid rhyngwladol”.(Ychwanegwyd ar 30/09/2009)
CIC yn edrych i'r gorwel
Braint fawr i'r rhai ohonom oedd yn bresennol oedd gwrando ar ddarlith gampus yr Athro Colin H Williams ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala eleni. Mapiodd Colin nifer o opsiynau oedd yn wynebu cynllunio iaith yng Nghymru o ran deddfwriaeth, rheoleiddio a hyrwyddo, gan dynnu ar enghreifftiau rhyngwladol ynghyd a dadansoddiad o ddatblygiadau cyfredol yma yng Nghymru. Cynhaliwyd y ddarlith dan faner Cynllunwyr Iaith Cymru a chafwyd cynulleidfa anrhydeddus iawn. Diolch i bawb am y gefnogaeth a diolch yn arbennig i Colin am y ddarlith a'i weledigaeth. Gobeithiwn y bydd fersiwn o'r ddarlith yn ymddangos ar y wefan yn fuan.(Ychwanegwyd ar 30/09/2009)
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith – Cylchlythyr
Cylchlythyr sy'n rhoi blas o'r hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith y mae'r Cwmni wedi bod yn ei ddarparu ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Caiff pob cwrs ei deilwra i gwrdd ag anghenion penodol yr asiantaeth a'i helpu i ymateb i'r gofynion o ran deddfwriaeth a pholisi a'r her o safbwynt gofal cwsmer cadarn.Y Cylchlythyr.
(Ychwanegwyd ar 17/06/2009)
Hanes y gynhadledd
Cynyddu darpariaeth Addysg Alwedigaethol Cymraeg a Dwyieithog i gwrdd â gofynion sgiliau cyfathrebu'r Gymru gyfoes - dyna gefndir i'r gynhadledd Addysgu a Dysgu Dwyieithog ar gyfer y Gymru Gyfoes, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod Dydd Iau, Ebrill 30ain i lansio DVD sy'n cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil Dwyieithrwydd, Llythrennedd a Dysgu mewn Addysg Bellach.Am fwy o fanylion cliciwch yma
(Ychwanegwyd ar 04/06/2009)
Seminar: Cynlluniau Iaith - y ffordd ymlaen
• VENUE CYMRU, LLANDUDNODydd Mercher, Mawrth 18fed 2009
• Y LLWYFAN, Campws Coleg y Drindod, CAERFYRDDIN,
Dydd Iau, Mawrth 19eg 2009
9.45yb – 12.30yh
Cynhelir 2 seminar hanner diwrnod i drafod Cynlluniau Iaith Gymraeg yng nghyd-destun:
• Y profiad o weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg
• Effaith a dylanwad Cynlluniau Iaith Gymraeg – y cynnydd a'r anawsterau
• Goblygiadau deddfwriaeth newydd a'r ffordd ymlaen.
Rhaglen 'Cynlluniau Iaith Gymraeg - y ffordd ymlaen'
(Ychwanegwyd ar 11/03/2009)
Estyn Llaw yn ymestyn
Mae Estyn Llaw yn ymestyn ei ddylanwad i Ogledd Cymru gyda phenodiad newydd i'n swyddfa yn Llanelwy. Ym mis Mawrth bydd Dr Mari Wiliam o Lansannan yn dechrau ar ei gwaith fel Swyddog Maes i Estyn Llaw yn y gogledd. Mi fydd Mari ar gael i roi cyngor ac arweiniad i gyrff cymunedol a gwirfoddol y gogledd ar faterion dwyieithrwydd a'r defnydd o Gymraeg. Noddir y swydd yn rhannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.Gallwch gael mwy o fanylion am Estyn Llaw yma.
(Ychwanegwyd ar 26/02/2009)
Dydd Gŵyl Ddewi
Bydd ein swyddfeydd ar gau ar 27 Chwefror 2009 i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi.Mae'r cwmni yn gefnogol iawn i'r ymgyrch i gyhoeddi Dydd Gŵyl Ddewi yn
ŵyl genedlaethol. Ers sefydlu'r cwmni yn 1993 rydym wedi caniatau diwrnod o wyliau i'r staff i anrhydeddu ein nawddsant Dewi. Er bod Dydd Gŵyl Ddewi yn cwympo ar y Sul eleni rydym yn cymryd penwythnos hir i ddathlu ein hunaiaeth genedlaethol.
Dymunwn Dydd Gŵyl Ddewi llawen i chi gyd!
(Ychwanegwyd ar 26/02/2009)
Y Gorchymyn Iaith a Hawl i'r Gymraeg
Mae'r Ganolfan yn cynnal cynhadledd uchelgeisiol yn y Deml Heddwch, Caerdydd, ar 7 Tachwedd 2008. Teitl y gynhadledd yw Y Gorchymyn Iaith a Hawl i'r Gymraeg ac mae'r cyfranwyr yn cynnwys Alun Ffred Jones AS, Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, Yr Athro Thomas Watkin, Gwion Lewis, Emyr Lewis a Meri Huws.Nod y gynhadledd yw rhannu gwybodaeth am y sefyllfa gyfredol ynglyn â'r gorchymyn iaith, cyfrannu at broses ymgynghorol yn ei gylch a thrafod posibiliadau o sicrhau hawliau ieithyddol i siaradwyr y Gymraeg yn ei sgil.
Am fwy o fanylion gweler y poster yma neu gofrestru trwy ddychwelyd y ffurflen gofrestru hon.
(Ychwanegwyd ar 21/10/2008)
Iaith ym Munster
Mae'r Ganolfan Cynllunio Iaith yn cryfhau ei gysylltiadau â Munster yn Hydref 2008.Mae Gareth Ioan, Prif Weithredwr y Ganolfan, newydd ddod nôl o Killarney lle y bu'n cynnal seminar i weithredwyr iaith cymunedol ardaloedd Gaeltacht y de orllewin. Cyflwyniad i gynllunio iaith oedd pwnc y seminar a drefnwyd gan Udaras na Gaeltachta (corff datblygu'r Gaeltacht). Mae Udaras yn rhoi mwy o sylw ar gynllunio iaith yn ddiweddar wrth i Strategaeth Iaith Genedlaethol Iwerddon gael ei chyhoeddi.
Adnewyddwyd y cyswllt rhwng Twf a chynllun cefnogi teuluoedd a gynhelir dan nawdd cwmni cydweithredol Chorca Dhuibne ar benrhyn y Dingle wrth i Linda Evans, Cydlynydd Twf yn y Gorllewin, fynd ar ymweliad hynod ddiddorol â'r penrhyn pellennig hwnnw drwy nawd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ddiwedd y mis bydd Dr Kathryn Jones yn cyfrannu at symposium rhyngwladol ym Mhrifysgol Limmerick. Bydd yn traethu ar ddeddfwriaeth iaith yng Nghymru yn sgil cyhoeddi adroddiad arloesol Cwmni Iaith ar y pwnc, Creu Cymru Gwbl Ddwyieithog, yn Nhachwedd 2007.
(Ychwanegwyd ar 20/10/2008)
Cyfiaith yn Ewrop
Llongyfarchiadau! Félicitations! Herzlichen Glückwunsch! Congratulations! Gyda'r Gymraeg wedi derbyn statws cyd-swyddogol o fewn yr Undeb Ewropeaidd mae Siân Jones, Pennaeth Cyfiaith, ymysg y naw cyfieithydd cyntaf erioed i dderbyn cymeradwyaeth Comisiwn Ewrop i gyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg mewn gweithgareddau Ewropeaidd. Gall y Gymraeg bellach gael ei defnyddio yn Senedd Ewrop a Chyngor y Gweinidogion a gall dinasyddion ohebu â'r UE yn Gymraeg.Bu Siân ar gwrs yn Llundain a Brwsel dan adain Prifysgol Westminster a'r Comisiwn yn achlysurol drwy gydol 2008 ac fe lwyddodd hi a'r lleill i ennill ei chymeradwyaeth ym mis Medi.
Llongyfarchiadau Siân – mae Cyfiaith unwaith eto ar y blaen.
(Ychwanegwyd ar 22/09/2008)
CIC yn yr Eisteddfod
Yr Heriau sy'n Wynebu Cymunedau Gwledig Cymraeg fydd testun fforwm eisteddfodol Cynllunwyr Iaith Cymru eleni. Wrth fwynhau'r bywyd dinesig am wythnos mae'r fforwm yn gyfle i atgoffa'n hunain o'r newidiadau cymdeithasol sy'n cynnig her i ddyfodol y Gymraeg yn y gogledd a'r gorllewin."Grymuso siaradwyr Cymraeg a chynnal y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn gyfrwng naturiol y gymdeithas yw un o'n heriau mwyaf fel proffesiwn ac fel cenedl. Mae potensial diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd anferth o allu gwneud hynny", meddai Gareth Ioan ar ran Cynllunwyr Iaith Cymru.
Anerchir y cyfarfod gan Elin Jones AC, y Gweinidog Materion Gwledig, Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac Euros Lewis, cydlynydd Y Ffwrwm. Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol Cyngor Sir Ceredigion fydd yn cadeirio.
Yn rhan o'r cyfarfod. Hefyd bydd Rhys Dafis, Dyfal, a Gareth Ioan, Iaith cyf., yn adrodd ar y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn i sefydlu Cynllunwyr Iaith Cymru yn gymdeithas broffesiynol i gynllunwyr iaith yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau, maes yr Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd, am 5.00p.m., dydd Iau, 7 Awst 2008.
Cliciwch yma i weld Rhaglen y cyfarfod.
(Ychwanegwyd ar 05/08/2008)
Y Gymraeg a Chyfiawnder
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ar 28 Mai lansiwyd yr adroddiad arwyddocaol, “Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru”. Comisiynwyd Cwmni Iaith i lunio'r adroddiad gan Fwrdd Cyfiawnder Gogledd Cymru, ac mae'r adroddiad yn ffrwyth chwe mis o waith maes o fewn y sector cyfiawnder yng Ngogledd Cymru.Mae'r adroddiad yn cyfleu profiadau unigolion a fu drwy'r system gyfiawnder yn y gogledd – wrth gael eu harestio, wynebu achosion llys a mynychu rhaglenni amrywiol i droseddwr. Holwyd nifer o garcharorion a chyn carcharorion hefyd am eu profiadau o dreulio cyfnodau mewn carcharau yn Lloegr.
Yn ogystal, ceir adran sylweddol yn yr adroddiad yn adolygu i ba raddau mae gwahanol asiantaethau'r sector cyfiawnder yng Ngogledd Cymru yn cynnig dewis iaith i ddefnydwyr eu gwasanaethau.
Cyflwynir nifer o argymhellion i'r ystod o gyrff a gwasanaethau sy'n rhan o Fwrdd Cyfiawnder Gogledd Cymru ynglŷn â sut mae gwella'r ddarpariaeth o ddewis iaith a'r gwasanaeth Cymraeg a gynigir i ddioddefwyr, tystion, droseddwyr ac eraill. Gallwch lawr lwytho copi o'r adroddiad yma.
(Ychwanegwyd ar 03/06/2008)
Croeso Sorbaidd i IAITH
Cafodd IAITH groeso mawr yn yr Almaen yn ddiweddar. Rhwng Brandenburg a Dresden yn nwyrain yr Almaen mae yna ardal o'r enw Lusatia lle ceir un o gymunedau ieithyddol lleiaf Ewrop. Yno mae tua 50,000 o drigolion yn siarad yr iaith Sorbeg – yn bennaf o amgylch trefi Bautzen a Cottbus.Yno bu Dr Kathryn Jones ar Ebrill 18-19 yn cyflwyno papur i gynhadledd a drefnwyd gan y mudiad Witaj (Croeso). Trosglwyddiad iaith yn y teulu oedd testun y cyflwyniad gyda Kathryn yn rhannu o'i harbenigedd yn y pwnc. Mudiad addysgol yw Witaj sy'n tynnu ysbrydoliaeth oddi wrth y mudiad Llydewig Diwan.
Hanes ansefydlog a chyfnewidiol sydd i'r rhan yma o Ewrop. Mae'r heriau'n lleng ond mae'r Sorbiaid yn benderfynol o ddal eu tir. Roedd IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn falch iawn o'r cyfle i gyfrannu at frwydr barhaus y gymuned iaith yma i oroesi.
(Ychwanegwyd ar 25/04/2008)
Llyfryn ar Ddwyieithrwydd i Rieni
'Siarad Dwy Iaith: y camau cyntaf at ddwyieithrwydd' yw enw cyhoeddiad newydd gan Mudiad Ysgolion Meithrin. Cynhyrchwyd y llyfr gan Gwmni Iaith ac addaswyd y testun gan Elaine Davies ar sail llyfryn blaenorol gan Siân Wyn Siencyn, 'Think Twice'.Diben y llyfryn yw cynnig esboniad hwylus a hylaw i rieni ar natur dwyieithrwydd, manteision siarad mwy nag un iaith a magu'ch plentyn i siarad Cymraeg. Mae'n sôn am ddatblygiad iaith mewn plant, cyngor i rieni a staff proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar, cefnogaeth gwneuthurwyr polisi, ynghyd ag enghreifftiau o brofiadau ymarferol rhieni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am 'Siarad Dwy Iaith' gallwch gysylltu â Medi James yn MYM www.mym.co.uk.
(Ychwanegwyd ar 14/03/2008)
Dydd Gŵyl Dewi
Bydd swyddfeydd Iaith cyf. ar gau ddydd Gwener, y 29ain o Chwefror, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.Mae'r cwmni'n cefnogi'r ymgyrch i wneud Mawrth y 1af yn Ŵyl Banc cenedlaethol.
(Ychwanegwyd ar 28/02/2008)
Adroddiad ar ddeddfwriaeth iaith
Mae'r cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth yn fwy niferus nag erioed. Dyna un o gasgliadau adroddiad diweddaraf Cwmni Iaith. Lansiwyd Creu Cymru Cwbl Ddwyieithog: cyfleoedd deddfu a gweithredu polisi yn Y Senedd ar 5 Chwefror 2008. Comisiynwyd yr adroddiad gan Hywel Williams AS.Mae'r adroddiad swmpus a manwl yn gosod y cefndir i ddeddfwriaeth iaith gan gymharu'r sefyllfa yng Nghymru â gwledydd dwyieithog eraill, mae'n gosod y prif safbwyntiau ar y mater ac yn amlinellu'r amryfal ffyrdd sydd yna bellach - yng Nghymru, San Steffan a Brwsel - i ddeddfu ar faterion iaith. “Hyderwn y bydd yn llwyfan cadarn ar gyfer trafodaethau i'r dyfodol”, meddai prif awdur yr adroddiad, Dr Kathryn Jones, a'i luniodd gyda chymorth gan Steve Eaves a Gareth Ioan. Mae yna wefan newydd, Wikideddfu, wedi ei sefydlu hefyd i hwyluso'r drafodaeth hynny.
Am gopi o'r adroddiad cliciwch yma.
(Ychwanegwyd ar 05/02/2008)
Iaith ar Waith
Mae'r iaith ar waith yng Ngheredigion. Dyna oedd neges cyfarfod arbennig ar Gampws Felin-fach ar ddydd Llun, 3 Rhagfyr, wrth i'r cynllun arloesol Iaith ar Waith gael ei lansio yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Cyng. Keith Evans. Diben Iaith ar Waith yw annog a chefnogi pob un o staff y Cyngor i wneud mwy o ddefnydd o Gymraeg yn fewnol – oddi fewn i weinyddiaeth y Cyngor ac yn eu gweithleoedd.Mae yna becyn o fesurau cefnogol wedi eu casglu ynghyd i gynorthwyo staff i gynyddu eu defnydd o Gymraeg – yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae'r adnoddau yn gyfuniad o feddalwedd defnyddiol, gwersi dysgu a gloywi'r Gymraeg, cyfleoedd hyfforddi cyfrwng Cymraeg a chymorth gan yr uned gyfieithu er mwyn i staff ddrafftio dogfennau yn y Gymraeg. Mae'r cyfan wedi eu tynnu ynghyd ar wefan fewnol lle bydd staff yn medru cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn ag adnoddau Cymraeg cefnogol.
Daeth y sbardun ar gyfer Iaith ar Waith o gynllun peilot 18 mis a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bu ymgynghorwyr Cwmni Iaith yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a Heddlu Gogledd Cymru i ddatblygu ffyrdd o gynyddu'r Gymraeg o fewn y sefydliadau. Gellir cyrchu'r adroddiad llawn yma.
Os carech fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â Gareth Ioan ar
(Ychwanegwyd ar 06/12/2007)
Cyngor Caerdydd ar y blaen
Mae Cwmni Iaith yn cydweithio â Chyngor Sir a Dinas Caerdydd i weithredu rhaglen eang o hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith. Mae uwch reolwyr y Cyngor eisoes wedi derbyn hyfforddiant ac mae tîm o 15 hwyluswyr adrannol wedi bod ar gwrs hyfforddi hyfforddwyr HYI yng Nghastell Caerdydd ar 21-22 Tachwedd dan arweiniad Elaine Davies a Clare Grist. Y bwriad yw y bydd hyfforddwyr Cwmni Iaith yn mynd ymlaen i roi sesiwn HYI i bob un o'r penaethiaid gwasanaeth cyn i'r hwyluswyr adrannol raeadru'r hyfforddiant drwy holl adrannau'r Cyngor.Mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi gweithredu rhaglen eang o HYI eisoes ond dyma'r tro cyntaf i awdurdod lleol fynd ati mor drwyadl i hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion iaith o fewn ei wasanaethau. Mae Cyngor Caerdydd ar y blaen.
Os carech mwy o wybodaeth am HYI neu'r cwrs hyfforddi hyfforddwyr HYI cysylltwch ag Elaine Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant Cwmni Iaith ar neu ffoniwch 01239 711668.
Gallwch gyrchu Rhaglen Hyfforddiant Cwmni Iaith ar gyfer 2007-08 yma.
(Ychwanegwyd ar 28/11/2007)
CIC i drafod cymhwyster proffesiynol
Bydd cyfarfod nesaf Cynllunwyr Iaith Cymru yn trafod yr angen am gymhwyster proffesiynol ar gyfer y maes. Cynhelir y cyfarfod nesaf yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, ar 8fed Chwefror (nid 7fed Rhagfyr). Ar yr agenda bydd trafodaeth ar fodel delfrydol ar gyfer cymhwyster proffesiynol mewn cynllunio iaith, modelau o ddilysu proffesiynol a'r angen i fapio anghenion y maes. Gallwch gael copi o'r rhaglen yma ac os carech ychwanegu eich enw at y rhestr gyswllt anfonwch air at .Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chynllunwyr Iaith Cymru cliciwch ar y ddolen yma.
(Ychwanegwyd ar 23/11/2007)
IAITH yn Waikato
Mae cysylltiadau Cymru a Waikato yn cynyddu - rhwng Warren Gatland a Chwmni Iaith! Rôl addysg wrth adfer ieithoedd oedd testun cynhadledd ym Mhrifysgol Waikato, Seland Newydd, ar 21-24 Tachwedd. Cynullyddion y gynhadledd oedd yr Athro Marilyn Martin Jones o Brifysgol Birmingham a Dr Kathryn Jones o Cwmni Iaith. Daeth academyddion a chynllunwyr iaith ynghyd o bedwar ban byd - Nicaragua, De Affrica, Califfornia, Canada a Chymru. Cyflwynodd Kathryn bapur oedd yn ail asesu swyddogaeth addysg yng nghyswllt agendau adfer iaith sosio-ieithyddol gyfredol. Gobeithir gosod ei phapur ar y wefan hon pan ddaw nôl o ben draw'r byd!.(Ychwanegwyd ar 23/11/2007)
IAITH yn Ffrainc
Mae IAITH yn cyfrannu cyngor i ieithoedd llai Ffrainc. Ar 2-3 Tachwedd roedd Dr Kathryn Jones yn un o brif siaradwyr cynhadledd iaith yn Landerneau, Llydaw. Trefnwyd y gynhadledd gan Kelenn, adain hyfforddi athrawon y mudiad Diwan, ac ISLRF, y corff ymbarél i ieithoedd rhanbarthol Ffrainc. Codi ymwybyddiaeth rhieni am fanteision trosglwyddo'r Gymraeg yn y cartref oedd testun cyfraniad Kathryn gan gyfeirio at brofiad y cwmni yn gweithredu'r cynllun Twf. Edrychwn ymlaen at ddatblygu mwy o gysylltiadau gyda Llydaw a rhanbarthau eraill Ffrainc i'r dyfodol.(Ychwanegwyd ar 22/11/2007)
IAITH yn cadeirio cynhadledd addysg
Bu Dr Kathryn Jones, Cyfarwyddwr Ymchwil a Pholisi Iaith y cwmni, yn cadeirio cynhadledd a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig ar 18 Hydref. Denodd y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol Caerdydd, athrawon o bob rhan o Gymru ynghyd â gwneuthurwyr polisi o'r Cynulliad a Bwrdd yr iaith. Y pwnc trafod oedd dulliau o ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg disgyblion yn ysgolion Cymru. Roedd y siaradwyr yn cynnwys y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, a Phrif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones.Am fwy o wybodaeth llywiwch i: wefan y SMC
(Ychwanegwyd ar 22/11/2007)
CIC yn trafod gwerthoedd
Cafwyd cyfarfod llwyddiannus o Gynllunwyr Iaith Cymru ar 12 Hydref. Trafodwyd swyddogaethau CIC a dyheadau'r proffesiwn. Cafwyd trafodaeth fuddiol ar egwyddorion sylfaenol y maes.Addysg a hyfforddiant fydd y testun trafod nesaf. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen yma.
Os carech ymuno â chofrestr CIC er mwyn derbyn gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf anfonwch nodyn at gan nodi CIC yn nhestun y neges
(Ychwanegwyd ar 17/10/2007)
Cynllunwyr Iaith Cymru
Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ar 12 Hydref yn Aberystwyth. Am fwy o fanylion dilynwch y cyswllt yma.(Ychwanegwyd ar 26/09/2007)
Swyddfa newydd
Mae swyddfa IAITH yng Nghastellnewydd Emlyn wedi ehangu unwaith yn rhagor gydag uned fusnes arall yn dod dan ein gofal. Mae'r Ganolfan Cynllunio Iaith bellach yn llenwi tair uned ar Barc Busnes Aberarad. Dewch draw am dro – ma' lle 'da ni nawr i'ch croesawu!(Ychwanegwyd ar 26/09/2007)
Croeso i Lowri
Dechreuodd aelod arall o dîm Cyfiaith ar ei gwaith ddechrau Medi. Croeso mawr i Lowri Jones sy'n ymuno â'r cwmni ar ôl graddio yng Nghaerdydd. Pob hwyl i ti ar y gwaith Lowri.(Ychwanegwyd ar 26/09/2007)
Atodiad Iaith yn Golwg
Bydd atodiad lliw gan Iaith yn Golwg yn ystod wythnos yr Eisteddfod – 8 Awst.Mae'r atodiad yn rhoi gorolwg o weithgareddau'r cwmni a'i gynlluniau at y dyfodol.
Gallwch weld fersiwn pdf ohono ar y cyswllt yma.
(Ychwanegwyd ar 03/08/2007)
Estyn Llaw yn yr Eisteddfod
Dewch draw i uned Sbardun ar faes yr Eisteddfod am 11.15 ar ddydd Gwener 10fed o Awst ar gyfer gweithdy Estyn Llaw.Bydd y gweithdy yn ymdrin â materion dwyieithrwydd a gweithredu'n gynhwysol o fewn y sector gwirfoddol a chymunedol:
• Cyfle i glywed mwy am y cysyniad o'r ôl-troed ieithyddol, a thrafod sut mae modd datblygu'r syniad er mwyn cryfhau hyfywedd a chynaladwyedd yr iaith Gymraeg ar lefel gymunedol.
• Trafodaeth ynglŷn â sut orau i hyrwyddo eich mudiad gwirfoddol yn ddwyieithog, denu gwirfoddolwyr dwyieithog ac osgoi allgau siaradwyr Cymraeg – cyfle i rannu profiadau ac arfer da.
• Lansio Bwletin Newyddion Estyn Llaw yn swyddogol a chael gorolwg o rhai o'r prosiectau cyfredol a diweddar ar hyd ac ar led Cymru.
(Ychwanegwyd ar 03/08/2007)
Iaith yn y 'Steddfod
Bydd Iaith yn brysur iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni eto. Dyma rai o'n gweithgareddau yno:• bydd criw Twf yn cynnal eu pabell 'hafan dawel' newydd i rieni ifanc gydol yr wythnos
• bydd Atodiad hysbysebu'r cwmni yn cael ei gyhoeddi yn Golwg ddydd Mercher
• byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i geisio sefydlu fforwm proffesiynol Cynllunwyr Iaith Cymru am 5.00p.m., dydd Iau, 9 Awst, ym Mhabell y Cymdeithasau gyda Meirion Prys Jones a Selwyn Williams yn annerch
• bydd Estyn Llaw yn cynnal gweithdy ar sicrhau ôl troed ieithyddol cadarnhaol am 11.00a.m. ddydd Gwener ym Mhafiliwn Sbardun - syniad newydd cyffrous
• byddwn yn ceisio'n gorau glas i rwydweithio gyda'n holl gwsmeriaid a phartneriaid gydol yr wythnos!
Welwn ni chi yno!
(Ychwanegwyd ar 02/08/2007)
Cynllunwyr Iaith Cymru
Cynhelir cyfarfod agored i drafod sefydlu Cynllunwuyr Iaith Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007. Cynhelir cyfarfod am 5.00p.m., dydd Iau, 9 Awst 2007 ym Mhabell y Cymdeithasau.Cadeirydd: Gareth Ioan, IAITH: y ganolfan cynllunio iaith
Siaradwyr: Meirion Prys Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Selwyn Williams, Datblygu Cymunedol Cymru
Dewch draw i gyfrannu i'r trafod.
Cewch fwy o wybodaeth yma.
(Ychwanegwyd ar 02/08/2007)
Rhaglen 07/08
Mae rhaglen hyfforddiant 07/08 wedi ei ryddhau. Mae'n cynnwys nifer o ddyddiadau penodol ar gyfer cyrsiau datblygiad proffesiynol mewn cynllunio iaith. Ceir hefyd rhestr o gyrsiau achlysurol gall y cwmni eu darparu ar eich cyfer yn ôl y galw.Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Rhaglen Hyfforddiant
(Ychwanegwyd ar 29/06/2007)
Llwyddiant Llinos
Mae trydydd Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru bellach ar staff Cyfiaith wedi i Llinos Thomas lwyddo yn y rownd ddiweddaraf o arholiadau. Mae Cyfiaith yn gefnogol iawn o ymdrechion y Gymdeithas i sicrhau safonau o fewn y diwydiant ac mae llwyddiant Llinos yn golygu bod tri aelod o'r uned bellach yn Aelodau Cyflawn o'r Gymdeithas gyda'r ddau arall yn Aelodau Sylfaenol.(Ychwanegwyd ar 11/06/2007)
PhD arall dan adain Iaith
Llwyddodd Dr Kathryn Jones, Cwmni Iaith, i ddenu un o ysgoloriaethau PhD Bwrdd yr Iaith Gymraeg mewn partneriaeth ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor yn ddiweddar. Mae'r ysgoloriaeth tair blynedd yn noddi myfyriwr ôl-radd i ymchwilio i agweddau o ddilyniant neu ddiffyg dilyniant mewn addysg cyfrwng Cymraeg rhwng CA2 a CA3. Bydd Dr Jones yn cyfarwyddo'r prosiect ar ran yr Adran.Mae'r cwmni, a chynllun Estyn Llaw yn benodol, eisoes yn noddi myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, CP Bangor, dan gynllun Ewropeaidd. Mae Cynog Prys yn ymchwilio i agweddau ar fodlonrwydd defnyddwyr Cymraeg wrth dderbyn gwasanaethau gwirfoddol.
(Ychwanegwyd ar 15/05/2007)
Hyfforddi Hyfforddwyr
“Rydw i wedi dysgu llawer am bwnc hyfforddi hynod sensitif…”. “Roedd yn ddefnyddiol iawn…”. Dyna ychydig o'r adborth a gafwyd i gwrs deuddydd arloesol Cwmni Iaith ar gyfer ddarpar hyfforddwyr mewn ymwybyddiaeth iaith. Daeth dros ddwsin o unigolion o bob rhan o Gymru i Aberystwyth ar 14-15 Mawrth i ddysgu sut i fynd ati i drosglwyddo sesiynau ymwybyddiaeth iaith mewn modd sensitif ac effeithiol. Elaine Davies a Claire Grist fu'n hyfforddi, y ddwy yn arbenigwyr yn eu maes. Bu'r ymateb yn gadarnhaol iawn gyda nifer yn magu hyder i geisio ymgymryd â'r pwnc anodd yma yn eu gweithleoedd. Edrychwch allan am Raglen Hyfforddiant 07/08 am y cyfle nesaf. Ar gael cyn hir ar y wefan hon.(Ychwanegwyd ar 04/05/2007)
Dysgu Gofalu 2
Mae CD ROM newydd ar gyfer y sector gofal wedi ei gyhoeddi gan IAITH yn ystod Chwefror. Mae dysgu Gofalu - llawlyfr dysgu CGC dwyieithog ar gyfer y sector gofal - wedi ei gyhoeddi ar ei newydd wedd. City & Guilds yw'r hyrwyddwyr, AADGOS a noddodd y cynhyrchiad ac Elaine Davies yw'r awdur. Mae gan y cwmni brofiad sylweddol erbyn hyn o gynhyrchu deunyddiau addysgol ar ffurf electronig ac yn barod iawn i gydweithio a chleientaid i greu deunyddiau hyfforddi a dysgu ar gyfer eu staff ar fformatiau cyfoes.Gallwch gysylltu ag Elaine Davies am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau ar 01239 711668.(Ychwanegwyd ar 27/02/2007)
Geiriau Gofalus
Adnodd newydd sy'n cynnig arweiniad pellach i weithwyr cymdeithasol mewn defnydd sensitif o iaith yw Geiriau Gofalus. Mae'r CD ROM wedi ei anelu at Aseswyr Ymarfer mewn gwaith cymdeithasol ac yn drysorfa o ddeunyddiau hyfforddiant yn y maes. Elaine Davies a Clare Grist yw'r awduron, dwy sy'n flaenllaw yn eu maes. Gallwch lawrlwytho ffeil flasu Geiriau Gofalus yma. Mae'r pecyn llawn yn gwerthu am £595 (+TAW). Cysylltwch â Kelly ar 01239 711668 i osod eich archeb.(Ychwanegwyd ar 12/01/2007)
Swyddfa newydd
Mae'r cwmni wedi symud ei swyddfa yn y gogledd o Fae Colwyn yn ôl i Lanelwy. Mae'r swyddfa helaeth a chyfleus yn Llys Bowen, nepell o'r A55, yn gartref i rai o ymgynghorwyr Cwmni Iaith ac yn bencadlys i'r cynllun Twf. Mae yna gyfleusterau cyfarfod yno hefyd. Croeso i chi alw heibio. Codwch y ffôn i archebu ystafell drwy ffonio Eirian ar 01745 5858120.(Ychwanegwyd ar 09/10/2006)
Cwmni Iaith yn Corsica
Bu Kathryn Jones yn cynrychioli Cymru mewn Gweithdy ar Addysg Ieithoedd Lleiafrifol yn Université de Corse, Corsica ym Mehefin 2006 lle bu cynrychiolwyr o wahanol gymunedau iaith lleiafrifol yn cymharu polisïau iaith a dulliau addysgu. Rhoddodd gyflwyniad ar gynlluniau Twf a Geiriau Bach - dau brosiect a ariannir gan Lywodraeth y Cynulliad sy'n ceisio cynyddu'r nifer o blant bychain sy'n dysgu a defnyddio'r Gymraeg. Gweinyddir y ddau brosiect gan IAITH ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Twf) ac Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Geiriau Bach).(Ychwanegwyd ar 09/10/2006)
Sociolinguistics Symposium 16
"Mae gwerthoedd iaith a rôl y fam neu'r tad sy'n siarad Cymraeg wrth fagu plant yn arwain at lwyddiant neu fethiant y teulu i gyflwyno'r Gymraeg yn llwyddiannus i'w plant ar yr aelwyd". Dyna oedd neges Kathryn Jones (Cwmni Iaith) a Delyth Morris (Prifysgol Bangor) yng nghynhadledd ryngwladaol Sociolinguistics Symposium 16, yn Limerick ym Mehefin 2006. Roedd y ddwy yn cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf eu prosiect ymchwil tymor hir sy'n ymchwilio arferion defnydd iaith teuluoedd gydag un rhiant sy'n medru Cymraeg ac yn edrych ar y ffactorau hynny sy'n dylanwadu ar 'drosglwyddo iaith' neu 'cymdeithasoli iaith'.(Ychwanegwyd ar 09/10/2006)
Bwletin Estyn Llaw #3
Lansiwyd bwletin diweddaraf Estyn Llaw yn Eisteddfod Abertawe ym mis Awst. Cynnwys grynodeb o'r gwasanaethau a gynigir, enghreifftiau o arfer da gan gyrff gwirfoddol a golwg ar weithgareddau Wythnos Gwirfoddolwyr yn Sir Gâr Am fwy o wybodaeth a chopi o'r bwletin cysylltwch ag
(Ychwanegwyd ar 09/10/2006)
Rhaglen Hyfforddi
Mae Cwmni Iaith wedi cyhoeddi ei raglen hyfforddi newydd ar gyfer Medi 06 hyd at Fawrth 07.Anelir yr hyfforddiant at unigolion sy'n gweithio yn y sector iaith-gysylltiol. Dyma'r tro cyntaf i raglen o sesiynau hyfforddiant mewn swydd gael ei gynnig yn y sector yma. “Mae hyn yn torri tir newydd ac yn adlewyrchu aeddfedrwydd proffesiynol y maes cynllunio iaith erbyn heddiw”, meddai Gareth Ioan, Prif Weithredwr y cwmni. “Rydym yn falch iawn o weld y cwmni yn cymryd cam arloesol arall yn y maes”.
Gallwch gyrchu'r rhaglen trwy glicio ar y cyswllt isod neu e-bostio at post@cwmni-iaith.com
mwy
(Ychwanegwyd ar 08/10/2006)
dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin/mach2media

