Iaith Cyf. logo

Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Recriwtio a'r Iaith Gymraeg


Cyfrwng:Dwyieithog
Amser: 9.30yb - 1yp
Dyddiadau: 17 Mawrth 2011   Canolfan Rheidol, Cyngor Sir Ceredigion,
  Aberystwyth
18 Mawrth 2011   Venue Cymru, Llandudno
Hyfforddwr: Steve Eaves

(Dyma'r un sesiwn a gynhaliwyd ddechrau mis Chwefror)
Nod yr hyfforddiant yw cynnig cyfle i'r mynychwyr gyfarwyddo eu hunain â chanllaw Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar recriwtio - Recriwtio a'r Iaith Gymraeg (Arweiniad o dan Adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993).

Yn ystod y sesiwn cyflwynir y cefndir polisi cyffredinol tu ôl i'r canllaw. Cyflwynir prif agweddau'r ddogfen o ran:

• Gweithredu egwyddorion iaith a recriwtio
• Cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog
• Polisïau ac arferion sefydlog adnoddau dynol
• Dehongliad o'r sefyllfa gyfreithiol

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, bydd y sesiwn hefyd yn trafod y Gymraeg yng nghyswllt ad-drefnu ac adleoli staff. Bydd cyfle i holi cwestiynau ac i drafod pryderon ynghyd â rhannu profiadau â mynychwyr eraill.

Anelir yr hyfforddiant at swyddogion Adnoddau Dynol, rheolwyr canol, swyddogion cydraddoldeb, swyddogion iaith ac unrhyw un arall sy'n chwarae rhan o ran recriwtio, penodi a rheoli staff.

Mae'r hyfforddiant yma am ddim.

Ffurflen Gofrestru

Ariennir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bwrdd yr Iaith GymraegLlywodraeth y Cynulliad

Nôl i'r Rhaglen Hyfforddiant
Gweinyddu