Iaith Cyf. logo

 


Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Twf


logo Twf
“Edrychwn ar drosglwyddo'r iaith yn y teulu fel uno elfennau allweddol ein strategaeth iaith”.(Iaith Pawb, 2003)

Dyna ddatganiad Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth osod ei weledigaeth ar gyfer creu Cymru ddwyieithog. Twf yw'r cynllun sydd ar droed i weithredu yn y cyswllt hwn.

Ers 2001 mae IAITH wedi gweithredu fel asiant i Fwrdd yr Iaith Gymraeg drwy gynnal y prosiect yn y maes. Mae'r cynllun yn gweithio yn bennaf gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac eraill yn y gwasanaeth iechyd i drosglwyddo neges Twf i ddarpar rieni a theuluoedd newydd – yn enwedig teuluoedd gydag un rhiant yn siarad Cymraeg a'r llall yn siarad Saesneg.

A'r neges? Yn syml, pwysigrwydd cyflwyno Cymraeg o'r crud. Sicrhau fod y Gymraeg, yn ogystal â'r Saesneg efallai, yn cael ei defnyddio ar yr aelwyd er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r plant i ddod yn naturiol ddwyieithog.

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y cynllun ar y wefan isod.

Gwefan Twf
Gweinyddu