Iaith Cyf. logo

 


Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar twitter

Swyddfa'r Gorllewin
Uned 3
Parc Busnes Aberarad
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

(+44) 01239 711668

Swyddfa'r Gogledd
Uned 95
Llys Bowen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JE

(+44) 01745 585120

Ymchwil a Pholisi Iaith



Arweinir Uned Ymchwil a Pholisi Iaith y Ganolfan gan Dr Kathryn Jones. Mae Kathryn wedi gweithio mewn nifer o gyd-destunau rhyngwladol cyn dod at IAITH. Ers 1999, dan ei harweiniad, mae'r Ganolfan wedi cyflawni nifer o brosiectau ymchwil arwyddocaol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyrff academaidd ym Mhrydain.


Ymgymerir ag ystod o waith - o brosiectau ymchwil academaidd 'pur' i waith ymchwil cymhwysol ac ymarferiadau gwerthusol. Cyflawnir gwaith yn y pau cyhoeddus ynghyd â phrosiectau ymchwil cyfranogol ar y cyd â grwpiau cymunedol. Rydym yn gyfarwydd â dulliau ymchwil ansoddol a meintiol ac yn arbenigo mewn methodoleg ethnograffig.

Ymhlith prosiectau ymchwil diweddar y cwmni mae:

Ymchwil gefndirol ar gyfleoedd deddfu iaith a gweithredu polisïau iaith – ar ran Hywel Williams AS (Tachwedd 2007)
Creu Cymru Gwbl Ddwyieithog: Cyfleoedd deddfu a gweithredu polisi (2007)
Astudiaeth o'r modd yr ymdrinnir â materion sgiliau iaith adrannau adnoddau dynol yng Nghymru – ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Awst 2006)
Astudiaeth o gymdeithasoli iaith yng Nghymru, ar y cyd ag Adran Polisi Cymdeithasol CPC Bangor – dan nawdd yr ESRC (Mai 2006)
Papur safleoli ar weithrediad Cynllun Iaith ELWa – ar ran ELWa (Mawrth 2006)
Gwerthusiad o botensial darpariaeth Gymraeg Prifysgol Morgannwg – ar ran Prifysgol Morgannwg (Ebrill 2006)
Cyfrannu i brosiect ymchwil 'Dwyieithrwydd, llythrennedd a Dysgu mewn Addysg bellach' gan Ysgol Addysg Prifysgol Birmingham – dan nawdd Rhaglen Ymchwil Addysgu a Dysgu yr ESRC (2005-07)
Arolwg o rwydweithiau iaith pobl ifanc 14-19 oed, ar y cyd â'r Ganolfan Ymchwil Ewropeaidd – ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Medi 2005)


Am restr bellach o weithgareddau'r Ganolfan yn y maes hwn cliciwch y cyswllt hwn. Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau ymchwil gallwch gysylltu â'r Dr Kathryn Jones ar 01745 585120.
Gweinyddu